Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 1 Mai 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(60)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Twf Swyddi Cymru (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Yr Adolygiad o Ddeddfwriaeth ar Ddigartrefedd (30 munud) 

Dogfennau Ategol
Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu
Y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru

Adolygiad o’r Polisi Digartrefedd RhyngwladolAr gael yn Saesneg yn unig
Dadansoddiad effaith o ddeddfwriaeth bresennol ar ddigartrefedd yng Nghymru Ar gael yn Saesneg yn unig
Opsiynau ar gyfer gwella’r fframwaith deddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru  - Ar gael yn Saesneg yn unig

 

</AI4>

<AI5>

5. Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012 (15 munud) 

NDM4928 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad - Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012
Dogfen EsboniadolAr gael yn Saesneg

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Orchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

 

</AI5>

<AI6>

6. Dadl ar Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – y ffordd ymlaen (60 munud) 

NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer bwyd yng Nghymru;
b) adolygu ac adnewyddu’r strategaeth fwyd bresennol;

c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi.

Mae Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 ar gael drwy’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/foodandfisheries/foodandmarketdevelopmentpubs/foodstratdoc/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 1a), dileu’r gair “uchelgeisiol”.

Gwelliant 2 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad llawn Pecyn Llaeth yr UE oni ellir dod i gytundeb gwirfoddol ar god ymarfer ar gyfer contractau llaeth rhwng y partïon perthnasol yn y gadwyn gyflenwi llaeth.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i israddio’r portffolio Materion Gwledig a'r effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar ei gallu i gyflawni’r strategaeth fwyd.

 

</AI6>

<AI7>

7. Dadl ar Ymchwil ac Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (60 munud) 

NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i gyllido a buddsoddi’n ddigonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwireddu a gweithredu manteision unrhyw ymchwil newydd, ac yn gresynu y bydd toriadau mewn termau real i gyllidebau’r GIG yng Nghymru yn rhwystro hyn.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 2 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>